Taith 4 Llan i Hermon a Crymych, 17 Ionawr 2026

January 20th 2026

Taith 4 Llan i Hermon a Crymych, 17 Ionawr 2026

Erthygl gan ein Hawdur Gwadd, Celia Richardson

Mae’r ysgol wedi cau… mae’r capel yn wag… does dim tai fforddiadwy… bydd y dafarn yn cau yn fuan… Dydy e ddim yn broblem – os daw’r gymuned at ei gilydd, fel maen nhw wedi ei wneud yn Sir Benfro!

Gan ddefnyddio cynllun fel CLT (Community Land Trust) a CBS (Community Benefit Society) maen nhw wedi bod yn llwyddiannus iawn. O’r dechrau cawsom ni ysbrydoliaeth gan Cris Tomos, yng Nghanolfan Hermon. Roedd Cris yn esbonio sut gafodd y ganolfan ei datblygu ar ôl cau’r hen ysgol yn 2006. Sefydlodd y gymuned elusen gofrestredig a CBS a gofyn i bobl leol i brynu cyfranddaliadau.

Dechreuon nhw drwy brynu’r hen ysgol ac wedyn sylweddoli bod dim digon o le am bopeth mae cymuned eisiau gwneud. Roedden nhw’n llwyddiannus o ran denu grant gan cronfa ‘Arian i Bawb’ y Loteri Genedlaethol er mwyn adeiladu estyniad newydd o adeiladwaith ffrâm bren gyda deunydd ynysu o bapur. Nawr, mae 160 o gyfranddaliwr yn cael llog blynyddol o 5% ar eu buddsoddiad.

Mae’r mynedfa’n arwain at ystafell gyfarfod fawr gyda bar, selar bar a chegin fawr. Cawsom nhw lot o nwyddau bar a chegin ail-law a rhai am ddim. Maen e’n ofod hyblyg gyda rhannwr stafell a llwyfan symudol. Dim ond y dechrau’r adeilad oedd hynny. Mae’r lle yn dipyn o ‘Tardis’ a dweud y gwir. Ymlaen wedyn at swyddfa’r rheolwr (sy’n gyflogedig gan y Ganolfan). Ar y llofft mae swyddfeydd cwmni lleol ac ystafell ar gyfer gwasanaethau fel yoga a tylino (massage). Lawr staer mae llefydd arall ar gyfer cyfarfodydd, grwpiau bach, dysgu iaith, gwneud celf ayb. Mae’r adeilad yn cael ei wresogi gan unedau ‘air source’ a phaneli solar.

Y lle pwysicaf (yn fy marn i) oedd ystafell y Cylch Meithrin – ystafell fywiog a lliwgar, gyda lle tŷ fas i chwarae gyda dŵr, tywod a.y.b. a sied fawr gyda chegin a byrddau. Mae ardal y Cylch Meithrin yn cynnwys cegin fach hefyd i lanhau pethau. Mae’n Gylch poblogaidd iawn.

Dydyn nhw ddim wedi gorffen eto chwaith! Gweddnewid hen lofft yr ysgol fydd y prosiect nesaf – sef, fflat fforddiadwy neu le ar gyfer busnes arall. Ac maen nhw wedi sefydlu CLT ar gyfer y tir drws nesaf hefyd, gyda maes chwarae, rhandiroedd a ‘Sied Dynion’. At hynny, lawr y ffordd a rownd y tro mae hen gapel Brynmyrnach yn mynd i gael ei ddatblygu yn fflat a chanolfan treftadaeth.

Nesaf, cerddon ni lawr y ffordd i weld tyrbin gwynt 700kw Cwm Arian – un o brosiectau cymunedol arall llwyddiannus yr ardal. Dechreuodd y prosiect hwn yn 2011 ar dir ffermwr lleol gan godi arian gan y ‘Low Carbon Community Challenge’ a chodi cyllid o’r gymuned drwy’r cyfranddaliadau o £450k. Maen nhw’n gwerthu trydan i’r grid. Mae’r incwm yn dibynnu ar bris y trydan ond maen nhw’n broffidiol.

Ar ôl cynhyrchu miliwn o gilowatiau o egni adnewyddadwy, nawr mae gan Cwm Arian neu CARE 16 o staff yn darparu prosiectau cymunedol fel adborth egni, hwb addysgu’r tir (yn Tegryn), cefnogaeth i fentrau gwledig, prydau bwyd cymunedol a.y.b.

Hefyd, yn ôl ar sgwâr Hermon ymwelon ni â lle hyfryd, Y Stiwdio, lle mae lot o wahanol gyrsiau crefft a chelf yn cael ei rhedeg gan CARE. Cafodd yr adeilad o bren naturiol a chywarchsment  (hempcrete) ei godi gyda help y gymuned ac mae e’n lle cyfforddus ac unigryw.

O Hermon aethon ni i Grymych, lle’r gymuned, trwy gyfrwng y clwb pêl-droed, wedi sefydlu Hub-Club-Pub yn Crymych Arms. Dechreuon nhw gydag ymgynghori cymunedol, wedyn gwerthu cyfranddaliadau i bobl a busnesau lleol gan godi £120k (ar £100 y cyfran) a denu cyllid cyfatebol gan gronfa SPF (Shared Prosperity Fund) o £80k. Prynwyd y dafarn. Mae’r dafarn wedi cael ei adnewyddu ac maen nhw’n cefnogi lot o grwpiau chwaraeon fel pêl-droed a hoci. Mae’r cyfranddalwyr yn gallu defnyddio eu difidendau (3%) i brynu bwyd a diodydd yn y bar. Mae cynllun arall ar y gweill i ddatblygu ystafelloedd eraill yn y dafarn gyda grantiau EIS (Enterprise Investment Scheme).

Yn y pentref, mae Barcud wedi datblygu cartrefi fforddiadwy newydd sy’n ynni-effeithlon. Mae’r tai ar gael i’w rhenti (21) neu ar gyfer perchnogaeth gyfrannol (20). Mae CLT arall ar y gweill er mwyn datblygu festri Capel Seion a’r hen ffermdy sydd ar bwys y stad tai yn ganolfan gymunedol.

Wrth gwrs, mae llawer iawn o bobl wedi helpu i ddechrau’r prosiectau hyn ac yn parhau i’w cefnogi nhw. Roedd y cyfan yn creu argraff dda iawn i ni o sut mae aelodau’r gymuned wedi cymryd eu dyfodol i’w dwylo eu hunain. Diolch yn fawr iawn iddyn nhw.