Prosiectau Tai

Mae ychydig dros 200 o geisiadau am dai yn ardal 4 Llan ar y Gofrestr Tai. Ond ble y dylid adeiladu'r cartrefi hyn a phwy ddylai eu hadeiladu?
Mae 4 Llan eisiau dod â’r gymuned ynghyd i ddarparu cartrefi fforddiadwy, ynni-effeithlon a maint addas sy’n addas ar gyfer ein cymuned – ar gyfer teuluoedd ac unigolion sydd â chysylltiadau lleol cryf.
Hwylusydd – Prosiectau Tai ac Ynni
Rydym yn falch iawn o fod wedi derbyn cyllid gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, trwy Grant Egin Camau Cynaliadwy Cymru, i gontractio Hwylusydd. Y prif nod yw cynyddu ein gallu i ddatblygu'r sefydliad a gyrru ein prosiectau tai ac ynni yn eu blaenau. Y canlyniadau yn y pen draw fydd cynnydd yn yr ynni a gynhyrchir ar gyfer pobl leol, gyda phobl leol a gan bobl leol; a chynnydd mewn tai fforddiadwy lleol ac ynni-effeithlon.
Dechreuodd Teresa Walters yn y rôl ym mis Chwefror ac mae'n gweithio un diwrnod yr wythnos. Un o'i thasgau cyntaf fu datblygu a lansio'r wefan.