Prosiectau Cymunedol

Mae Prosiectau Cymunedol yn cynnwys pob math o fentrau cydweithredol sy'n mynd i'r afael ag anghenion lleol. Mae pobl leol wedi dweud wrthym eu bod yn meddwl y dylem ganolbwyntio ar gyfleusterau lleol gwell, mannau chwarae, mannau ar gyfer natur, diogelwch a chyfleoedd ar gyfer mwy o gymdeithasu a siarad/dysgu Cymraeg.
Digwyddiadau Ymgynghori Cymunedol
Drwy gydol 2023 a 2024 ac yn arwain at sefydlu 4 Llan, daeth pobl leol at ei gilydd i drafod yr argyfwng tai yng nghefn gwlad Ceredigion ac arweiniodd hyn at sgyrsiau am ystod o bethau eraill gan gynnwys balchder yn y ffordd y mae pobl yn ein cymuned yn cefnogi ei gilydd, allfudiad pobl ifanc, dirywiad yr iaith Gymraeg, costau byw cynyddol a thlodi tanwydd. Adleisiodd arolwg cymunedol bach y meddyliau hyn. Helpodd y digwyddiadau ymgynghori 4 Llan i flaenoriaethu 4 elfen ein gweledigaeth ar gyfer cymuned wledig ffyniannus a chynaliadwy:
- Tai sy'n iawn i'n cymuned
- Prosiectau Ynni Cymunedol – cynhyrchu ynni gyda phobl leol ac ar eu cyfer
- Prosiectau tir sy'n darparu cyfleusterau i bobl a gofod hanfodol i fyd natur
- Prosiectau Cymunedol sy'n dod â phobl ynghyd i adeiladu cymunedau cryf, cysylltiedig, diogel a bywiog
Digwyddiadau Diogelwch Trydanol
Rydym yn poeni am ddiogelwch cymunedol.
Gyda chymorth y Gronfa Diogelwch Trydanol, contractwyr lleol a gwirfoddolwyr, rydym wedi bod yn trefnu Digwyddiadau Diogelwch Trydanol ledled ardal 4 Llan.
Yn ystod y digwyddiadau, mae trigolion lleol yn dod â hyd at 4 eitem drydanol fesul cartref i gael eu profi gan drydanwr cymwys.
Yn ein digwyddiadau yng Nghaerwedros a Phontgarreg yn gynnar yn 2025, roeddem yn gallu cynnig talebau tuag at y gost o brynu eitemau newydd ar gyfer unrhyw eitemau a fethodd y prawf.
Os hoffech gynnal digwyddiad yn eich neuadd, cysylltwch â ni .