Prosiectau Ynni Cymunedol

A hoffech chi elwa ar gynhyrchu ynni lleol, neu gymryd rhan fel y gallwch wneud iddo ddigwydd? Beth yw'r atebion ynni cywir ar gyfer ein hardal?
Gallwch ddarganfod mwy am Ynni Adnewyddadwy, Atebion Ynni Net Sero a Systemau Ynni Lleol Clyfar drwy wylio seminarau defnyddiol Ynni Teg .
Hwylusydd – Prosiectau Tai ac Ynni
Rydym yn falch iawn o fod wedi derbyn cyllid gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, trwy Grant Egin Camau Cynaliadwy Cymru, i gontractio Hwylusydd. Y prif nod yw cynyddu ein gallu i ddatblygu'r sefydliad a gyrru ein prosiectau tai ac ynni yn eu blaenau. Y canlyniadau yn y pen draw fydd cynnydd yn yr ynni a gynhyrchir ar gyfer pobl leol, gyda phobl leol a gan bobl leol; a chynnydd mewn tai fforddiadwy lleol ac ynni-effeithlon.
Dechreuodd Teresa Walters yn y rôl ym mis Chwefror ac mae'n gweithio un diwrnod yr wythnos. Un o'i thasgau cyntaf fu datblygu a lansio'r wefan.