Telerau ac Amodau
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 8pm, 12 Ionawr 2026.
Rhaid i chi ddarllen a chytuno â'r telerau ac amodau hyn cyn cystadlu. Cyfrifoldeb pob cystadleuydd yw sicrhau eu bod wedi darllen y telerau ac amodau hyn. Mae cyflwyniad i'r gystadleuaeth hon yn gytundeb bod y cystadleuydd wedi darllen ac y bydd yn cydymffurfio â rheolau'r gystadleuaeth, fel y'u nodir yn y telerau ac amodau hyn.
Mae cystadleuaeth ffotograffiaeth 4 Llan Naws am Lle (y “gystadleuaeth”) yn cael ei rhedeg gan Ymddiriedolaeth Tir Cymunedol 4 Llan (Cymdeithas Budd Cymunedol ddi-elw, rhif cofrestru 9382) gyda’i swyddfa gofrestredig yng Nghroesheddig Newydd, Pentre’r Bryn, Llandysul, Ceredigion SA44 6NB.
Gall pob ymgeisydd gyflwyno hyd at 5 llun – hen neu newydd. Dylai pob llun gael ei dynnu o fewn ardal ddaearyddol y 4 Llan (Llanarth, Llanllwchaearn, Llandysiliogogo, Llangrannog a'r cymunedau cyfagos) ar unrhyw adeg . Dylai cyflwyniadau esbonio mewn llai na 100 gair, naill ai yn Saesneg neu'n Gymraeg, ble tynnwyd y llun a pham mae'r lle hwnnw (neu'r person, neu'r olygfa, neu'r adeilad, neu'r rhywogaeth, neu'r digwyddiad, neu'r nodwedd leol ac ati) yn bwysig i'w "Naws o Le".
Bydd aelodau bwrdd Ymddiriedolaeth Tir Cymunedol 4 Llan a gwirfoddolwyr gwadd yn beirniadu'r lluniau. Dewisir deuddeg o ymgeiswyr terfynol ym mis Ionawr 2025. Bydd eu gwaith yn cael ei ddewis ym mis Ionawr 2026. Bydd eu gwaith ar ddangos i'r cyhoedd yn ddiweddarach y mis hwnnw.
Bydd y rhai sy’n cyrraedd y rownd derfynol yn derbyn print A3 wedi’i fframio o’u llun.
Gall ffotograffau gael eu dangos ar wefan 4 Llan, cyfryngau cymdeithasol a chalendr 2027. Gall ymgeiswyr o dan 25 oed ddarparu eu hoedran er mwyn rhoi cyd-destun, ond ni fydd eu henwau'n cael eu cyhoeddi ar-lein.
Mae penderfyniad y beirniaid yn derfynol.
Mae cytuno i'r telerau ac amodau hyn yn golygu eich bod yn cytuno i'ch gwaith gael ei ddangos ar wefan a chyfryngau cymdeithasol 4 Llan, yn yr arddangosfa ac ar y calendr.